16/03/2012

Perfformiad Diwrnod y LLyfr 2012

Mis dwytha mi fues i'n brysur yn cyfarwyddo drama 'Perfformiad Diwrnod y Llyfr' yn seiliedig ar lyfr 'Y Tuduriaid Trafferthus a'r Siwartiaid Trafferthus' gan Catrin Stevens. Y cast oedd Manon Wyn Williams a Sion Trystan. Drama ryngweithiol a synhwyrol i ysbrydoli plant i fynd ati i ddarllen. Cafodd y ddrama ei  pherfformio yn Nant Gwrtheryn a Castell Caerffili i gynulleidfa o dros 2000 o blant. Prosiect hyfryd a lot o hwyl.